CREDWN
Bu Cristnogion yng Nghymru ers y cyfnod yr oedd y Rhufeiniaid yn rheoli Ynys Prydain, ac mae llawer Eglwys yn gysegredig i Saint Celtaidd y canrifoedd cynnar ac yn dwyn eu henwau fel y mae llawer pentref a thref hefyd. Saint yw’r rhain a fu yma ymhell cyn i Awstin Sant gael ei anfon gan y Pab Gregori i genhadu ar Ynys Prydain (i’r Sacsoniaid).
Yna, yn y man, daeth yr Eglwys Gristionogol yng Nghymru dan awdurdod yr Eglwys Rufeinig, a pharhaodd yn rhan ohoni nes i’r Brenin Harri’r VIII neilltuo’r Eglwys yng Nghymru a Lloegr oddiwrth awdurdod y Pab.
Bellach, ’roedd proses diwygio wedi cychwyn, a bwriodd hyn ymlaen. Rhan allweddol o hyn oedd darparu cyfieithiad o’r Beibl i’r Gymraeg a’r Saesneg fel y gallai nid yn unig offeiriaid, mynaich a lleianod, ond hefyd lleygwyr ei ddarllen. Gall yr Eglwys yng Nghymru felly arddel gwreiddiau yn yr Eglwys Geltaidd, a’i disgrifio ei hun yn Gatholig (h.y. rhan o’r Eglwys fyd-eang) ac yn Efengylaidd (h.y. yn cyhoeddi Efengyl Iesu Grist).
Mae Adran Weinidogaeth Bro’r Holl Saint felly yn rhan o’r Eglwys yng Nghymru sydd ei hun yn rhanbarth hunanlywodraethol o’r Eglwys Anglicanaidd fyd-eang. Golyga hyn fod ein ffydd yn seiliedig ar y Credoau Catholig, ac yn y rhain arddelwn ein cred yn Nuw sydd wedi Ei ddatguddio y Dad, Mab ac Ysbryd Glan, a’n cred yn yr Eglwys - y gymuned honno o’r rhai sy’n un drwy ein bedydd cyffredin i Gorff Crist.
Canolbwynt y ffydd hon yw’r Person sy’n wir ddyn ac yn wir Dduw - y Crist Ymgnawdoledig. Y mae Duw yn ymwacàu er mwyn cyfrannu o’n bywyd meidrol ni gyda’i holl lawenydd a thristwch, a thrwy Ei Atgyfodiad ac Esgyniad, mae’n cynnig inni’r gobaith o fywyd tragwyddol a’r posibilrwydd y gall ein bywydau gael eu gweddnewid i lun a thebygrwydd Duw yma ac yn awr.
Yn yr Ysgrythurau - ac yn enwedig yn yr Efengylau - mae ein ffydd yn cael ei datguddio mewn modd unigryw. Tŷf ein ffydd hefyd drwy astudio’r Ysgrythurau; drwy ddysgeidiaeth a thraddodiad yr Eglwys ond yn arbennig drwy’n bywyd gweddi.
Yn yr oes gyfoes, mae llawer penbleth foesol yn ein hwynebu nad oedd y byd yn gyfarwydd â hwynt yn y gorffennol - materion fel y newid yn y ffordd y gwelwn rôl dynion a merched, hunaniaeth rywiol a datblygiadau gwyddonol mewn meddyginiaeth megis ymchwil i gelloedd bonyn. Rhaid i ni fod yn fentrus a dal ein gafael ar ein hyder a bod yn barod i wneud asesiadau moesol drwy ddefnyddio’r meddwl a roddodd Duw i ni, gan ddal ein gafael ar egwyddorion yr hyn a ddysgodd Iesu inni, ac ar Draddodiad yr Eglwys.
Mynegwn ein ffydd mewn addoliad, ac mae’r Sagrafennau’n rhan hanfodol o fywyd yr Eglwys - Sagrafennau Bedydd, Conffyrmasiwn, (“Bedydd Esgob”), Sagrafennau Cymodi, Eneinio’r claf ac Ordeinio ac yn enwedig yr Ewcharist Sanctaidd, yn yr hwn y cyfranogwn o Gorff a Gwaed Crist.
Ond mynegwn ein ffydd hefyd drwy fywyd o wasanaeth i’n cymdogion, ac yn ein gwaith fel unigolion ac o fewn ein teuluoedd a thrwy ymroddiad i’n cymunedau megis yng ngwaith Undeb y Mamau, er enghraifft.